HAUL logo

Newyddion

Mae’r prif weithgareddau ar waith: Clwb Haul, arddangosfeydd celf yn Ystafell Fwyta Ysbyty Bronglais a chyngherddau a drefnir ar y cyd â Cherddoriaeth mewn Ysbytai.

Digwyddiad Codi arian i Haul
Ceir dangosiad sinema arbennig o ffilm Buster Keaton 'The General' ddydd Gwener 19 Chwefror am 7.30pm yn y Coliseum, Aberystwyth. Bydd cerddoriaeth fyw ar y piano yn cyd-fynd â’r dangosiad gyda phianydd sinema Buster Keaton profiadol.
Cost y tocynnau yw £6.00 a bydd yr elw yn mynd i Celfyddydau Iechyd Haul.

buster keaton - the general

Bore Coffi Haul
Cynhaliodd Haul Fore Coffi gyda gweithgareddau celf yn Y Morlan ar 12 Rhagfyr 2009 gan godi £146 at gostau prosiectau’r dyfodol. Daeth nifer dda yno, gyda llawer o bobl yn dangos diddordeb yng ngwaith Haul. Rydym ni’n gobeithio cynnal bore coffi rheolaidd bob dau fis yn y dyfodol lle gall pobl glywed am ein gwaith a chael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym ni’n ei wneud.

Cynhelir ein bore coffi nesaf ddydd Sadwrn 17 Ebrill 10am -1pm yn Y Morlan.

Codi Arian
Mae Haul yn trefnu gweithgareddau eraill i godi arian yn y dyfodol gan gynnwys pacio bagiau siopa yn Morrisons dros y Pasg, ddydd Gwener, 9 Ebrill.

Arian i Bawb
Yn ddiweddar rydym ni wedi derbyn cyllid i weithio gyda phobl h?n yng Ngheredigion. Bydd y prosiect yn cynnwys gweithdai celfyddydau gweledol a gweithdai symud. Ein partneriaid yn y prosiect yw Age Concern, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth a Nam ar y Golwg Aberystwyth.
Bydd y gweithdai yn dechrau yn ystod mis Mawrth ac Ebrill.

Haul ym Mhowys
Mae Haul wedi lledu ei adenydd i Bowys, drwy gydweithrediad ag Ysbyty cymunedol Bro Ddyfi. Bydd Jane Lloyd Francis yn cydlynu arddangosfeydd chwarterol yn yr ysbyty. Yr arddangosfa gyfredol yw 'Comfort Blankets' gan Becky Knight. I gael rhagor o wybodaeth am waith Becky ymwelwch â’i gwefan http://www.beckyknight.co.uk/

IMAGE: blancedi Becky

Os hoffech chi arddangos yng nghoridorau’r ysbyty, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ymweld â’r arddangosfa, cysylltwch â Jane drwy ebost carregdressage@gmail.com.

Clwb Haul
Mae Haul yn cynnal gweithdai celf am ddim i blant sydd ag anawsterau dysgu a/neu salwch tymor hir a’u brodyr a chwiorydd. Cynhelir y rhain bob yn ail brynhawn Sadwrn yn ystod y tymor yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Mae’r gweithdai yn bennaf mewn celf a chrefftau gweledol. Ceir dau grwp, 2-3pm 5-8 oed a 3.15pm-4.45pm 8+. Caiff y rhain eu trefnu ar y cyd â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Gallwch archebu o flaen llaw yn y swyddfa docynnau: 01970 623232.

News

Our main activities are ongoing: Clwb Haul, art exhibitions in Bronglais Hospital Dining Room and concerts arranged in conjunction with Music in Hospitals.

Haul Fundraiser
A special cinema screening of Buster Keaton's 'The General' will take place on Friday 19th February at 7.30pm at The Coliseum, Aberystwyth. The screening will be accompanied by live piano music with an experienced Buster Keaton cinema pianist.
Tickets cost £6.00 and proceeds go to Haul Arts in Health.

PICTURE: Buster Keaton poster

Haul Coffee Morning
Haul held a Coffee Morning with arts activities at Y Morlan on 12th December 2009 where we raised £146 towards costs of future projects. The morning was well attended, with many people showing an interest in Haul's work. We hope to hold a regular bi-monthly coffee morning in the future where people can find out what were up to and receive more information about what we do.

Our next coffee morning will be Saturday April 17th 10am -1pm at Y Morlan.

Fundraiser
Haul is planning other fundraising activities in the future including packing shopping bags in Morrisons on Easter week Friday 9th April.

Awards for All
We have recently been awarded funding to work with older people in Ceredigion. The project will involve visual arts workshops and movement based workshops. Our partners in the project are Age Concern, Aberystwyth Arts Centre and Aberystwyth Visually Impaired.
Workshops will begin in March and April.

Haul in Powys
Haul has stretched it's wings into Powys, through a collaboration with Bro Ddyfi community Hospital. Jane Lloyd Francis will be coordinating quarterly exhibitions in the hospital. The current exhibition is Becky Knight's 'Comfort Blanket's'. For more information on Becky's work please look at her website http://www.beckyknight.co.uk/

IMAGE: Becky's blankets

If you would like to exhibit in the hospital corridors, or would like more information about visiting the exhibition please contact Jane by email at carregdressage@gmail.com.

Clwb Haul
Haul runs a free arts workshop for children with learning difficulties and/or long term illness and for their siblings. These are held every other Saturday afternoon during term times at Aberystwyth Arts Centre.

Workshops are mainly in visual arts and crafts. There are two groups 2-3pm 5-8 years and 3.15pm-4.45pm 8+ Organised in collaboration with Aberystwyth Arts Centre.
You can book in advance at the box office on 01970 623232.

Arts Councl of Wales logowales assembly government logohywell dda trust logomillennium logocommunities first logofunded by the Lottery logo