About Us
Amdanom Ni
Grŵp o weithwyr celf ac iechyd proffesiynol yw Haul sydd wedi’i sefydlu ers 19 o flynyddoedd. Mae Haul yn codi arian i gynnig gweithgareddau a gweithiau celf drwy Geredigion gyfan i grwpiau cymorth iechyd, canolfannau gofal dydd, ysbytai ac unrhyw leoliad iechyd i hybu iechyd a llesiant a chynorthwyo i atal iselder, ynysu cymdeithasol a phroblemau iechyd meddwl.
Nid yw Haul yn derbyn cyllid craidd felly rydym ni’n ddibynnol ar grantiau prosiect. Dros y 8 blynedd diwethaf mae cyllid prosiectau oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru wedi’n caniatáu ni I gyflogi hwyluswydd celfyddau rhan amser am un diwrnod yr wythnos.
Eleni rydym ni wedi:
-
Trefnu gweithdai i bobl sy’n dioddef o ganser neu sy’n gwella dros dro o ganser
-
Gweithio gyda Gofalwyr Ifanc
-
Gweithio gyda dioddefwyr dementia yn Hafan y Waun.
-
Rhaglennu arddangosfeydd celf yn ffreutur Ysbyty Bronglais.
-
Bob hydref mae Haul yn trefnu diwrnod o hwyl i staff Ysbyty Bronglais (eleni trefnwyd cartwnydd i wneud brasluniau o’r staff a arddangoswyd yn y ffreutur).
-
Clwb Haul - gweithdai crefft i blant â salwch tymor hir/anawsterau dysgu a’u brodyr a’u chwiorydd.
-
Gweithdai celf i bobl â chaethiwed ac adfer yn Cyswllt Contact Aberstywth ac Aberteifi a chanolfan breswyl Rhoserchan.
-
ysgrifennu creadigol yn Mind Aberystwyth.
-
cyngherddau mewn cartrefi preswyl ac ysbytai cymunedol drwy Geredigion gyfan.