Dyma dau drac gan grŵp 'Dysgu Drymio' yn Y Pwerdy, Pont Tyweli, Llandysul. Rhan o brosiect Ys brydoliaeth i fod yn Greadigol, roedd hwn yn gwrs llwyddiannus iawn wedi ei ddysgu gan Rachel Hargrave. Mwynhewch rhai o'u rhythmau!
Cystadleuaeth i Blant a Murluniau Ysbyty Bronglais 2011:
Stori Alex:
Ym mis Medi 2011 lansiwyd cystadleuaeth gelf i blant ysgol gynradd yng Ngheredigion gan Laing O’Rourke, y contractwyr sy’n gweithio ar adeilad newydd Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth a Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Y thema oedd ‘Beth rydych chi’n ei garu am Geredigion’ a gwahoddwyd y plant i anfon gwaith celf gwreiddiol ar bapur maint A4. Roedd yr holl geisiadau i’w dangos yn Ysbyty Bronglais, gyda’r enillydd yn cael dau docyn i Barc Thema Oakwood.
Daeth dros gant o geisiadau i law a bu Haul - y Celfyddydau mewn Iechyd yn rhan o’r gwaith yn dethol a threfnu arddangosfa o’r holl geisiadau yn Ffreutur Ysbyty Bronglais. Darparodd Laing O’Rourke y paent, a chomisiynwyd yr artist Pod Clare i drefnu prosiect cymunedol celfyddydol i gyfuno elfennau o holl ymdrechion y plant mewn murlun lliwgar ar rai o’r parwydydd oedd yn gwarchod safle’r adeilad newydd ger y fynedfa achosion brys.
Unwaith i’r cynllun gael ei luniadu ar y paneli, gwahoddwyd grwpiau cymunedol i helpu i ‘liwio’r’ darlun. Ymhlith y cyfranogwyr roedd cleientiaid o Mind Aberystwyth, staff yr ysbyty, trigolion lleol, teuluoedd yn aros i berthnasau gael eu trin yn yr adran frys a gwirfoddolwyr o ganolfan breswyl adsefydlu alcohol a chyffuriau Rhoserchan. Darganfu un o’r cyfranogwyr o Roserchan, Alex, fod ganddo dalent i beintio’n ofalus a chywir. Pan holodd Pod a oedd ganddo gefndir mewn celf, atebodd nad oedd, a bod ganddo hanes hir o fynd i drwbl a’i fod wedi gadael yr ysgol yn 12 oed a threulio amser gyda llawer o bobl hŷn.
“Rwyf i wedi treulio’r 11 mlynedd diwethaf i mewn ac allan o’r carchar, gan dreulio mwy o amser i mewn nag allan; dwyf i ddim wedi cael swydd erioed ac mae gen i hanes hir o gam-drin cyffuriau. Cefais fy rhyddhau o’r carchar ar 2 Awst 2011 ac es i’r ganolfan rehab yn Aberystwyth i gael trefn ar fy nefnydd o gyffuriau. Yno fe ges i gynnig y cyfle i wneud gwaith gwirfoddol a dyna lle cwrddais i â Pod. Hwn oedd y tro cyntaf i fi wneud unrhyw fath o waith ac fe fwynheais i e’n fawr.”
Daeth Alex yn ôl a gwirfoddoli am bedwar diwrnod ac ar y diwrnod olaf cafodd gynnig swydd fel peintiwr ac addurnwr gan y contractwyr, Laing O’Rourke. Mae Alex wedi bod yn gweithio llawn amser gyda nhw ers dros flwyddyn, mae ganddo ei fflat ei hun ac mae wedi ailgysylltu â’i deulu.
Er bod y parwydydd bellach wedi’u tynnu i lawr, maen nhw wedi’u rhoi i ysgolion a grwpiau cymunedol yng Ngheredigion i’w mwynhau am flynyddoedd i ddod.
“Mae gwirfoddoli gyda Haul wedi fy helpu i roi trefn ar fy mywyd ac ailadeiladu fy hun i gael bywyd gwell.”